Ardystiad Organig

Cyflwyniad

Mae’r Ardystiad Bwyd Cymreig o Ansawdd (Quality Welsh Food Certification Ltd –QWFC) yn gorff ardystio wedi’i sefydlu gan y mudiad cydweithredol amaethyddol yng Nghymru i fonitro safonau o fewn ffermydd a'r gadwyn gyflenwi bwyd.

Rydym yn cael ein cydnabod gan Wasanaeth Achredu'r Deyrnas Unedig (UKAS) (Rhif Cofrestredig 146) a Defra fel Corff Rheoli Organig (GB-ORG-13).

Rydym yn darparu gwasanaeth sy’n benodol ar gyfer ffermydd Cymru, Ffermwyr Cymru a Phroseswyr Bwyd Cymru sy'n canolbwyntio ar eu hanghenion a'u gofynion penodol nhw.

Achrediad Organig Cymru

Er mwyn troi i gynhyrchu’n organig bydd angen i chi gynllunio'n ofalus. Nid oes angen i'r broses fod yn feichus ac rydym yn ymdrechu i arwain unrhyw ymgeisydd drwy'r broses ardystio mor effeithlon a diffwdan â phosibl. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i rai wneud mwy o newidiadau nag eraill ac ail-werthuso eu dulliau gweithredu.

Cyn i chi ddechrau newid o gynhyrchu an-organig i gynhyrchu organig, efallai y byddwch am gael cyngor gan arbenigwr ym maes cynhyrchu organig. Gall ffermwyr a thyfwyr gysylltu â Cyswllt Ffermio ar 08456 000813, https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/ neu gall proseswyr bwyd gysylltu â Cywain drwy ffonio 01745 770036, https://menterabusnes.co.uk/en/cywain i gael cymorth. Mae eu gwasanaethau'n cynnwys cyngor busnes a chyngor technegol am ddim, yn ogystal â hyfforddiant a mynediad i grwpiau trafod.

Er mwyn cael eich adnabod fel ffermwr organig neu brosesydd bwyd organig a marchnata eich cynnyrch fel un ‘organig’, bydd angen i chi gofrestru gyda Chorff Rheoli sydd wedi’i gydnabod yn swyddogol gan Defra, megis Quality Welsh Food Certification Ltd. Mae unrhyw un sy'n gwerthu cynhyrchion fel rhai ‘organig’ sydd heb gael ei ardystio gan QWFC neu Gorff Rheoli Organig arall yn torri'r gyfraith a gallai wynebu erlyniad troseddol. 

Cliciwch yma i weld y daflen QWFC Ltd Gwneud cais am Ardystiad

Amodau sy'n rheoli’r Defnydd o Nodau Ardystio